Trying to learn how to translate from the human translation examples.
From professional translators, enterprises, web pages and freely available translation repositories.
croeso cynnes i’r flwyddyn academaidd newydd! rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at gael croesawu’r holl ddisgyblion yn ôl i’r ysgol ac yn barod gydag egni newydd i weithio hyd eithaf ein gallu er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn cyrraedd eu potensial. dyma atgof o drefniadau ymarferol fel eich bod yn barod ar gyfer blwyddyn academaidd newydd amseroedd ysgol mae drysau’r ysgol yn agor am 8:50 a disgwylir i ddisgyblion fod yn y dosbarth yn barod i ddysgu erbyn 9:00 mae dosbarthiadau derbyn hyd at flwyddyn 2 yn gorffen eu dydd am 3:15 a blynyddoedd 3-6 yn gorffen eu dydd am 3:30. dojo dosbarth mae staff yr ysgol yn defnyddio dojo dosbarth er mwyn cadw mewn cysylltiad gyda’n teuluoedd. defnyddir dojo er mwyn rhannu newyddion a threfniadau’r dosbarth o ddydd i ddydd. gofynnwn yn garedig i chi gysylltu â’r swyddfa os mae eich plentyn yn dost ac yn mynd i fod yn absennol o’r ysgol. yn ogystal, os oes neges ar frys sydd angen cyrraedd yr ysgol e.e. newid mewn trefniadau casglu eich plentyn, a wnewch chi gysylltu â’r swyddfa rhag ofn bod yr athro heb weld y neges mewn digon o amser. clybiau ar ôl ysgol mae clybiau ar ôl ysgol yn dechrau wythnos yn cychwyn 11.09.22. amser 3:30 – 4:30 dydd llun – côr bl 4-6 dydd mercher – chwaraeon bl 5-6 (bydd angen dillad addas ac esgidiau ymarfer) dydd iau – ysgol goed bl 3 (bydd angen dillad addas) a chelf i fl 4-6 diolch am eich cefnogaeth a’ch cydweithrediad unwaith eto y flwyddyn hon.
Some human translations with low relevance have been hidden.
Show low-relevance results.